Gan fod y safle unwaith yn un o'r gweithfeydd petrocemegol mwyaf yn Ewrop, mae yna etifeddiaeth ddiwydiannol ym Mae Baglan mae St. Modwen, fel perchennog a datblygwr y safle wedi ymrwymo'n llawn i'w rheoli trwy raglen tymor hir a chyfnodol o adfer.
Cyn cyflwyno'r safle i St. Modwen y llynedd, cyflawnodd BP raglen tair blynedd o waith adfer rhwng 2006 a 2009.
Mae St. Modwen nawr wedi lansio proses lanhau ar y safle, gan adfer ardaloedd o'r tir gafodd eu halogi gan gynhyrchu a phrosesau petrocemegol hen waith BP, i lanhau'r tir ac ailddatblygu Bae Baglan i fod yn safle gyflogi cynaliadwy.
Mae St. Modwen wedi penodi'r contractwr lleol Cuddy, gyda cymorth gan yr ymgynghorydd amgylcheddol, ERM a'r arbenigwr ar waith adfer, QDS i ymgymryd â chymal cyntaf y gwaith adfer ar y safle. Bydd Atkins, ymgynghorwyr peirianyddol mwyaf y DU, hefyd yn darparu goruchwyliaeth annibynnol ar draws y prosiect.
Bydd y gwaith adfer yn golygu bod yr arbenigwyr hyn yn defnyddio technegau profedig gaiff eu defnyddio ar draws cannoedd o brosiectau adfer graddfa fawr eraill yn y DU, er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei ailddatblygu mewn modd diogel, cynaliadwy a chyfeillgar i'r amgylchedd.
Bydd y broses yma o lanhau'r safle'n cael ei wneud yn raddol ar draws nifer o ardaloedd sy'n cael eu rheoli a'u monitro'n drylwyr. Yr ardaloedd cyntaf i gael eu hadfer gan St. Modwen yw'r cyn safleoedd cynhyrchu styren (y defnyddiau crai a ddefnyddir i wneud polystyren) wedi eu lleoli yn rhan Gogledd Ddwyreiniol y safle.