Bae Baglan

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau ym Mae Baglan trwy gofrestru'ch manylion yma:

CROESO I FAE BAGLAN

Mae St. Modwen, prif arbenigwr y DU ar adfywio, ar ei ffordd i drawsnewid gwaith petrocemegol BP ym Mae Baglan i fod yn safle cyflogaeth gwerth £500 miliwn.

Gan weithio gyda'r partner yn y cynllun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, bydd St. Modwen yn ailddatblygu'r safle 1,050 erw ar sail gynlluniedig a chyfnodol dros y 25 mlynedd nesaf.

Am fwy o wybodaeth ar gynlluniau datblygu, ewch i'r adrannau canlynol 'Portffolio BP'; 'Adferiad'; 'Monitro'; 'Cynaladwyedd' a 'Pharc Ynni Baglan' ar y wefan hon.

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau, cofnodwch eich manylion cyswllt yma. Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â ni trwy e-bost ar info@baglanbay.com.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynglŷn â'r gwaith adfer, cysylltwch â Cuddy ar 07770 761 059.

Mae gan St. Modwen dros 30 mlynedd o brofiad yn cyflawni cannoedd o brosiectau adfywio llwyddiannus yn ne Cymru ac ar draws y DU. Mae hyn wedi caniatáu i'r cwmni i sicrhau llwyddiant blaenorol mewn adfer a datblygu safleoedd tir llwyd fel Bae Baglan i fod yn gymunedau cynaliadwy lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau.

Ewch i www.stmodwen.co.uk os am fwy o fanylion.