Bae Baglan

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau ym Mae Baglan trwy gofrestru'ch manylion yma:

PORTFFOLIO BP

Bae Baglan yw un o naw cyn safle BP yn ne Cymru y dewiswyd St. Modwen i'w phrynu yn ystod 2008-09.

Gyda safleoedd ym Mhort Talbot, Abertawe a Chastell Nedd ac eraill yn y Bari a Sir Benfro, mae St. Modwen nawr yn berchen ar ac yn rheoli tua 3,267 erw - sydd yr un maint a mwy na 1,815 Stadiwm Liberty - yn ne Cymru'n unig.

Mae'r safleoedd yn ffurfio rhan o ddatblygiad cysylltiedig anferth gwerth £3 biliwn fydd yn llwyr drawsnewid ardal sy'n ymestyn o Gastell Nedd Port Talbot i Abertawe trwy ddatblygu cartrefi, cyflogaeth, addysg a chyfleoedd hamdden newydd.

Gan adlewyrchu arbenigedd St. Modwen mewn gwaith adfer ac adfywio, gwerthu y portffolio yma yw'r ail waith yn unig mae BP wedi caniatáu i gwmni allanol i glirio'u safleoedd puro segur.

Y tro cyntaf oedd ar gyfer hen burfa olew 1,060 erw Llandarsi, yn Llandarsi yng Nghastell Nedd, lle mae St. Modwen eisoes yn ei hailddatblygu trwy greu pentref trefol Coed Darcy, sy'n werth £1.2 biliwn.

Ym Mis Mai 2010, dechreuodd St. Modwen raglen o waith adfer ym Mae Baglan a cychwynodd gwaith tebyg yn Transit, oedd hefyd yn safle fu unwaith yn eiddo i BP, wedi ei lleoli oddi fewn i ardal Dociau Abertawe ym Mis Gorffennaf 2010.

Gan gymeryd tair blynedd i'w chwblhau, bydd St. Modwen yn gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr amgylcheddol yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i gyflawni'r rhaglen mewn modd diogel a chynaliadwy.

Bydd St. Modwen yn trawsnewid Bae Baglan i fod yn safle o gyflogaeth gynaliadwy dros gyfnod o 20 mlynedd.