Bae Baglan

Image 01 Image 02

PARC YNNI BAGLAN

Parc Ynni Baglan yw'r cam cyntaf yn adfywio Bae Baglan.

Mae'r Parc Ynni, sy' mesur tua 180 erw, yn fenter breifat/gyhoeddus yn cynnwys y partneriaid, St. Modwen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae nifer o gwmnïau wedi eu lleoli ar Barc Ynni Baglan yn cynnwys Intertissue, Hi-Lex Cable System Ltd, Remploy Ltd a Montagne Jeunesse gyda swyddfeydd hapfasnachol ac adeiladau diwydiannol ar gael i'w gosod, a chyfleon datblygu pwrpasol hefyd yn cael eu cynnig. .

Mae rhai o'r cwmnïau ar Barc Ynni Baglan yn cael budd o waith pŵer tyrbin nwy cylched cyfunol General Electric, sy'n cynnig cyflenwad o ynni mwy cynaliadwy a chostau is i gynnal gweithrediadau busnes.

Mae'r safle hefyd yn gartref i Ganolfan Arddangos ac Ymchwilio Hydrogen gyntaf Cymru, yn archwilio'r defnydd o hydrogen fel tanwydd y dyfodol.

Yn datblygu fel un o leoliadau busnes a diwydiannol gorau Cymru, mae'r Parc Ynni eisoes wedi denu buddsoddiad o'r radd flaenaf yn y byd oddi wrth amrywiaeth o gwmnïau. Mae hyn yn golygu bod y Parc wedi sicrhau anrhydeddau sylweddol yn cynnwys gwobr y 'British Urban Regeneration Award' a Gwobr Rhagoriaeth Cymru am yr arfer gorau mewn adfywiad.

Am fwy o wybodaeth ar y Parc Ynni ewch i www.npt-business.co.uk neu www.npt.gov.uk